Bydd wych.
Bydd garedig.
Bydd dy hun.
Croeso i Ysgol Dyffryn Aeron
Ysgol Gynradd ar gyfer plant o 3-11 oed yw Ysgol Dyffryn Aeron. Cafodd ei sefydlu yn dilyn ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Ers Ionawr 2025, mae adeilad pwrpasol, newydd sbon, wedi agor ei drysau yn Nyffryn Aeron i dderbyn cyn-ddisgyblion o ysgolion Ciliau Parc, Dihewyd a Felin-fach, ynghyd â nifer o gyfeillion eraill. Ein braint fel staff yw cynnig profiadau addysgol cyffrous a phwrpasol i’n plant, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a diwylliant cynhenid Cymreig yr ardal. Gyda chymorth disgyblion a staff, Corff Llywodarethwyr, rhieni/gwarchodwyr ac aelodau’r gymuned, ein bwriad yw creu ysgol gymunedol benigamp a fydd yn arddel y gwerthoedd gorau o ran addysg, iaith a diwylliant.
Ein nod cyntaf yw sicrhau bod pob plentyn sy’n cychwyn yn yr ysgol hon yn hapus mewn awyrgylch cartrefol, diogel, cynnes, cyffrous a Chymreig. Dan yr amgylchiadau hyn y mae plentyn yn gweithio orau. Anelwn tuag at greu awyrgylch dysgu eithriadol y tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Bydd yr ysgol hefyd yn sefydliad sy’n adeiladu ar gysylltiadau cryf â’r gymuned a’r diwylliant lleol.
Mae staff brwdfrydig a phrofiadol yr ysgol hon wedi eu hyfforddi’n benodol ar gyfer addysgu plant oed cynradd. Maent yn mynychu cyrsiau hyfforddi priodol yn rheolaidd ac yn magu arbenigedd wrth ddarparu cwricwlwm eang, cyfoethog a chytbwys.
Gwna’r ysgol bob ymdrech i sicrhau datblygiad cymdeithasol eich plentyn trwy ei annog i adeiladu perthynas iach a hapus â’i gyfoedion ac â’r oedolion sydd yn gysylltiedig â’r ysgol. Bydd yn dysgu i fod yn sensitif i deimladau ac anghenion eraill.
Anogir pob plentyn i weithio hyd eithaf ei (g)allu a chefnogir ymdrechion pob plentyn i ddatblygu talentau unigol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod plentyn yn gweithio ar lefel a chyflymdra priodol er mwyn cyrraedd ei (l)lawn botensial. Os bydd angen cymorth ychwanegol ar blentyn, trefnir hynny ar ôl ymgynghori a derbyn cefnogaeth y rhieni/gwarchodwyr. Anogir y plant i ymfalchïo yn eu llwyddiannau ac i fagu lefel uchel o hunan- barch a hunanwerth ym mhob maes ar draws yr ysgol.
Fel rhieni/gwarchodwyr, mae gennych chi ran allweddol bwysig yn natblygiad addysgol eich plentyn ac fe gewch gyfleoedd i drafod cynnydd eich plentyn gyda’r staff yn rheolaidd, a derbyn gwybodaeth ar sut allwch chi gynorthwyo eich plentyn ymhellach. Gobeithiwn y byddwch yn cadw mewn cysylltiad er mwyn cael gwybodaeth am gynnydd eich plentyn a chyngor ynglŷn â’r modd y gellir ei helpu. Os ydych yn poeni am unrhyw agwedd o ddatblygiad eich plentyn, dewch i’n gweld neu cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad i drafod y mater.
Mae addysg gynradd plentyn yn gyfnod allweddol, ac fe fydd staff a Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn gwneud eu gorau glas i sicrhau fod eich plentyn yn hapus, yn gwneud cynnydd o fewn ei (g)allu ac yn cymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Ms. Nia Lloyd Thomas (Pennaeth)
Bydd wych.
Bydd garedig.
Bydd ti dy hun.
Ein Gweledigaeth
Bydd wych.
Bydd garedig.
Bydd ti dy hun.
Yn Ysgol Dyffryn Aeron rydym yn deulu sy’n tyfu gyda’n gilydd, yn dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd a hyn oll mewn awyrgylch bositif, Gymreig, gofalgar a hapus.
Mae pob plentyn yn haeddu’r parch, y cymorth, y cariad a’r addysg orau posib gan deimlo’n ddiogel gan fagu ymdeimlad o hunan barch a pharch at eraill.
Yn Ysgol Dyffryn Aeron, rydym yn dathlu pob disgybl gan eu hysbrydoli, eu hannog a’u cefnogi drwy gynnig profiadau eang a pherthnasol.
Rydym yn creu cymuned ysgol fywiog, gynhwysol a deinamig sy’n paratoi’r disgyblion at fywyd go iawn ac yn aelodau gwerthfawr o’u cymuned.