Madog
Bydd wych.
Bydd garedig.
Bydd ti dy hun.
Miss. Ffion Evans
Disgyblion hynaf Blwyddyn 1 a phawb yn Blwyddyn 2
Miss Ffion Evans yw athrawes Dosbarth Madog, lle mae’r disgyblion hŷn ym Mlwyddyn 1 a phob disgybl ym Mlwyddyn 2 yn dysgu gyda’i gilydd. Rydym yn ffodus iawn i gael ein cefnogi yn y dosbarth gan Miss Lowri a’n myfyrwraig, Miss Lilianna. Rydym wrth ein bodd yn lluniadu, ysgrifennu straeon bach ac adeiladu pethau. Ar ddydd Mawrth, Miss Meleri Jenkins sy’n addysgu’r dosbarth. Rydym yn ddosbarth cyfeillgar, siaradus a chwilfrydig, ac rydym wrth ein bodd yn dysgu pethau newydd gyda’n gilydd.
Mae darllen yn rhan bwysig iawn o fywyd Dosbarth Madog. Rydym yn darllen gyda’n gilydd yn ddyddiol yn yr ysgol ac yn annog y plant i ddarllen yn rheolaidd gartref er mwyn datblygu eu hyder, eu rhuglder a’u cariad at lyfrau.