ParentPay – Taliadau Ar-lein

Bydd wych.

Bydd garedig.

Bydd ti dy hun.

Rydym yn defnyddio ParentPay er mwyn eich galluogi i wneud taliadau di-arian ar gyfer tripiau ysgol neu eitemau.

Sut i actifadu eich cyfrif ParentPay

  1. Diwrnod neu ddau ar ôl i’ch plentyn ddechrau yn yr Ysgol bydd ParentPay yn anfon e-bost actifadu atoch.
  2. Ewch i www.parentpay.com
  3. Teipiwch yr enw defnyddiwr a’r cyfrinair a nodir yn yr e-bost actifadu. Sicrhewch nad ydych yn cymysgu’r llythyren I (am Indigo) gyda’r rhif un (1) a’r rhif 0 (sero) gyda’r llythyren O (am Oscar). Mae’r manylion defnyddiwr yn sensitif i briflythrennau a llythrennau bach a gellir ond eu defnyddio unwaith. Byddant yn annilys ar ôl gweithredu’r cyfrif.
  4. Cadarnhewch fod y manylion yn gywir a nodwch ddyddiad geni eich plentyn a chlicio ‘confirm’.
  5. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i actifadu’r cyfrif yn llwyddiannus.
  6. Bydd angen i chi nodi enw’ch plentyn, cyfeiriad e-bost cyfredol a dewis cyfrinair ar gyfer y cyfrif (eich cyfeiriad e-bost fydd eich enw defnyddiwr).
  7. Darllenwch delerau ac amodau ParentPay a chlicio’r blwch i’w derbyn ar waelod y dudalen yna clicio Activate account.

Gallwch ychwanegu mwy nag un plentyn i’r un cyfrif ParentPay gan ddefnyddio’r botwm add a child ar eich hafan.

Yna anfonir e-bost gwirio atoch chi y defnyddiwr. Bydd angen i chi glicio ar y ddolen yn yr e-bost i gwblhau’r broses ac agor eich cyfrif.