Betsi a Barti
Bydd wych.
Bydd garedig.
Bydd ti dy hun.
Mrs. Rachel Wright
Rhan-amser – plant 3 oed
Amser-llawn
Y tymor ar ôl y pumed pen-blwydd (Barti)
Mae Dosbarth Betsi yn fan cychwyn arbennig i’n dysgwyr ieuengaf! Dyma’n Dosbarth Meithrin rhan-amser, gyda rhai plant yn dod yn y bore ac eraill yn y prynhawn.
Mae Dosbarth Betsi yn fan cychwyn arbennig i’n dysgwyr ieuengaf! Dyma’n Dosbarth Meithrin rhan-amser, gyda rhai plant yn dod yn y bore ac eraill yn y prynhawn.
Maen nhw’n rhannu’r un ystafell ddosbarth ac ardal awyr agored â Dosbarth Barti, ac yn cael eu cefnogi gan yr un tîm gofalgar: Mrs Rachel Wright, Miss Meleri Jenkins (rhan amser), Miss Margaret a Miss Ela.
Mae pob diwrnod yn llawn gwenu, chwarae a darganfod – ac mae ein sêr bach eisoes yn disgleirio!
Croeso i Ddosbarth Barti – cartref ein plant Derbyn gwych! Dan arweiniad Mrs Rachel Wright, gyda chefnogaeth Miss Margaret a Miss Rhian, mae’r dosbarth hwn yn llawn dychymyg, chwerthin a dysgu drwy chwarae.
Mae’r plant wrth eu bodd yn treulio amser yn eu hardal awyr agored wych, lle maen nhw bob amser yn brysur gyda’r swydd bwysicaf oll – chwarae, archwilio a thyfu.
Mae Dosbarth Betsi a Dosbarth Barti yn rhannu’r un ystafell ddosbarth, yr un ardal awyr agored a’r un tîm gofalgar. Mae’r dosbarth yn cynnig amgylchedd cynnes, hapus a chroesawgar lle mae pob plentyn yn cael ei annog i archwilio, chwarae a datblygu hyder. Mae’r plant wrth eu bodd yn defnyddio’r ardal awyr agored, lle maent yn dysgu drwy brofiadau ymarferol, creadigol a llawn hwyl.
Mae disgyblion Dosbarth Barti, sy’n cynnwys plant Derbyn a Meithrin llawn amser, yn mynychu’r ysgol drwy’r dydd, tra bod disgyblion Dosbarth Betsi yn mynychu’n rhan-amser ac yn ymuno â’r dosbarth yn y prynhawn.
Dan arweiniad Mrs Rachel Wright, gyda chefnogaeth Miss Soffi.
Mae’n bwysig nodi y gallai cynnydd yn nifer ein disgyblion Betsi a Barti gael effaith ar nifer y sesiynau a gynigir i ddisgyblion Meithrin, e.e. efallai y bydd yn angenrheidiol cynnig 2 sesiwn bob dydd, un yn y bore a’r llall yn y prynhawn yn ystod tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf o 2026 ymlaen. Os yw eich plentyn yn mynychu’r Cylch Meithrin, bydd angen i chi wneud cais am le yn dosbarth Betsi yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd yn angenrheidiol gwneud cais ychwanegol i’r Awdurdod Addysg am le i’ch plentyn wrth symud o Betsi (rhan amser) i Barti (amser llawn). Nid oes trosglwyddiad awtomatig.
Cais trwy’r Cylch Meithrin
Dosbarth Betsi
Cais trwy’r Awdurdod Addysg
Trosglwyddo o Betsi a Barti
i
Dosbarth Gwenllïan (Derbyn)