Dewiniaid Digidol

Ni yw’r Dewiniaid Digidol ac rydyn ni’n helpu pawb i aros yn ddiogel ar-lein! Rydyn ni’n dysgu am ddiogelwch ar y we ac yn addysgu eraill sut i ddefnyddio technoleg mewn ffordd garedig a synhwyrol. Rydyn ni hefyd yn helpu plant eraill i ddysgu sut i greu pethau digidol anhygoel. Mae bod yn Ddewin Digidol yn hwyl oherwydd rydyn ni’n rhannu ein sgiliau technoleg ac yn helpu gwneud yr ysgol hyd yn oed yn fwy creadigol!