Diogelu

Bydd wych.

Bydd garedig.

Bydd ti dy hun.

Mae diogelu plant yn un o flaenoriaethau uchaf Ysgol Dyffryn Aeron gan sicrhau amgylchedd diogel. Mae cyfrifoldeb ar bob aelod o staff yr ysgol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sydd ynddi. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustod neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr Ysgol. Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol yr Awdurdod. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.
Pan wna plentyn honiad yn erbyn aelod o’r teulu neu rywun ar yr aelwyd, ni chaiff caniatâd rhieni ei geisio gan yr ysgol i wneud atgyfeiriad at Wasanaethau Cymdeithasol Ceredigion. Bydd angen i Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu siarad â’r plentyn cyn gynted ag y bo modd os credir bod trosedd wedi’i chyflawni.

Mae 3 Swyddog Amddiffyn Plant yn Ysgol Dyffryn Aeron:

Ms. Nia Lloyd Thomas (Pennaeth)

Thomasn60@hwbcymru.net

Miss. Ffion Evans (Dirprwy Bennaeth a CADY)

evansf80@hwbcymru.net

Mr. Pete Ebbsworth (Athro Arbenigol)

ebbsworthp12@hwbcymru.net

Bydd Polisi Amddiffyn Plant ar wefan yr ysgol YMA.